Chwilio am Arwyddion: Peter Finnemore, Rhagolwg o'r Arddangosfa / Lansio Llyfr

Peter Finnemore, Looking for Signs

Chwilio am Arwyddion

Peter Finnemore

7 - 20 Hydref 2022, Ffotogallery, Caerdydd


Dydd Iau 6 Hydref

6 - 8pm

Rhagolwg o'r Arddangosfa / Lansio Llyfr


Dydd Sadwrn 15 Hydref

  • 11 - 11.45am Sgwrs yr Artist Peter Finnemore (yn Gymraeg)
  • 12 - 3.30pm Ffair Llyfrau Ffotograffau
  • 2 - 3pm Peter Finnemore ac Alejandro Acin yn sgwrsio (yn Saesneg)


Mae’r corff hwn o waith yn brosiect ffotograffig a chelf destun unigryw, a wnaed ac a ysbrydolwyd gan ddau drip i India yn 2017 a 2018. 

"Profiad o India drwy ffrâm ddangosiadol camera llaw yw Chwilio am Arwyddion. Defnyddir y ciplun hwn i ddogfennu’n greadigol ac yn rhugl brofiadau a mannau cymdeithasol yr hunan, wedi eu gosod yn awyrgylch ac arena ddynamig India. Mae tiriogaeth artistig y gelfyddyd hon i’w chael mewn cyfarfyddiadau cymdeithasol haniaethol, darniog a dirfodol. Cyd-gyfarfod diflanedig ymddangosiadau a gwahaniad, lle mae’r hunan a rhywun arall yn cwrdd a chyfuno drwy fan cyfarfod y camera. Mae estheteg ciplun, gyda’i rwyddineb, ei ddiffyg hierarchaeth a’i ynni darluniadol wedi’i ddefnyddio yma drwy gyfrwng iaith eang celfyddyd gain, lle mae’r ystyr yn agored, wedi ei ehangu ac yn ansicr. Crëir y ffotograffau goddrychol hyn o deithio yn y meddwl, lle mae’r camera’n cyfryngu rhwng ymddangosiad, profiad a syniad. Yr hyn sy’n fy nghymell i yw profiad pererin nid twrist.


"Agor amser a naratif sy’n digwydd yn y llyfr hwn, llif sinematig o ymddangosiadau. Mae’r synnwyr o symud a thaith wedi ei wreiddio hefyd yn y lluniau eu hunain lle mae cyfarfyddiadau cymdeithasol ag ymddangosiadau’n agor ‘fel sioe sy’n pasio’. Yn y fan yma, mae creu darluniau llawn mynegiant yn cyd-daro ac yn clymu â phenodolrwydd ac ecosystem cymunedau, diwylliant a drama lle.


"Mae India yn ddiwylliant cymhleth, dynamig a goleuedig sydd â gwreiddiau dwfn, ac sy’n cynnwys deuoliaethau a chyferbyniadau cymdeithasol. Ochr yn ochr â’r profiad hwn o is-gyfandir India, mae hunanymwybyddiaeth o ddynameg y person ar y tu allan fel rhywun sy’n creu’r darluniau. Yr hyn sy’n cael ei ddathlu i’r un graddau yn y fan yma yw cyfarfyddiadau ag amrywiaeth fawr o ddelweddau, arteffactau ac arwyddion wrth iddynt gael eu cyflwyno, eu harddangos a’u profi mewn mannau cyhoeddus. Ar y cyd yma, maen nhw’n dangos cynrychiolaeth a’i gymhlethdod.”


- Peter Finnemore, Cymrawd Gwadd, PDC


Bydd Chwilio am Arwyddion ar gael i’w brynu o siop lyfrau oriel a siop ar-lein Ffotogallery o 7 Hydref.



#ecdr.cy