Amak Mahmoodian yn cyhoeddi ffotolyfr

Bydd Dr Amak Mahmoodian, un o'n alumni PhD llwyddiannus, yn cyhoeddi llyfr yn yr Hydref 2019 gyda RRB Photobooks ac IC Visual Labon gyda’r prosiect Where Time Stood Still. Yn Where Time Stood Still mae'r artist yn defnyddio delweddau o archifau Golestan y 19eg ganrif yn Tehran ynghyd â ffotograffau a gymerodd hi yn Iran ddeng mlynedd yn ôl wrth iddi archwilio teimladau o golled a gwahanu oddi wrth ei theulu a'i mamwlad.

#ecdr.cy