24-01-2020 am 10am i 5pm
Lleoliad: Amgueddfa Cymru Caerdydd
Cynulleidfa: Public
Cost: £20-£30
Ymuno https://www.eventbrite.co.uk/e/cynhadledd-ffotograffiaeth-photography-conference-tickets-77511341509
Amgueddfa Cymru a’r Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Ddogfennol, Prifysgol De Cymru yn cyflwyno:
Cyfalaf/Prynwriaeth/Diwylliant
Mewn ymateb i’r Tymor Ffotograffiaeth yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, bydd y gynhadledd hon yn edrych ar wleidyddiaeth ffotograffiaeth o ran ei pherthynas â chyfalaf, prynwriaeth a diwylliant. Bydd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau gan artistiaid, damcaniaethwyr, haneswyr a churaduron fydd yn edrych ar gelf a ffotograffiaeth yn nhermau economeg, y farchnad gelf, strwythurau dosbarth, prynwriaeth a’r diwylliant nwyddau. Ymysg y siaradwyr bydd Julian Sander,Hilde Van Gelder, Dr Russell Roberts, Amak Mahmoodian, Carey Young a Jean Wainwright.
Amserlen y Gynhadledd: Consumerism/Capital/Culture
09:00 – 09:30: Cofrestru/Te a choffi
09:30 – 09:45: Croeso: Dr Bronwen Colquhoun (Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd) a’r
Athro Mark Durden (Prifysgol De Cymru)
09:45 – 10:30: Hilde Van Gelder (Prifysgol Leuven)
10:30 – 11:15: Amak Mahmoodian (artist)
11:15 – 11:45: TE/COFFI
11:45 – 12:30: Carey Young (artist ac Ysgol Gelf Gain Slade)
12:30 – 14:00: CINIO
14:00 – 14:45: Julian Sander
14:45 – 15:30: Dr Russell Roberts (curadur annibynnol)
15:30 – 15:45: TE/COFFI
15:45 – 16:30: Yr Athro Jean Wainwright (University for the Creative Arts)
16:30 – 17:00: Sylwadau i Gloi
Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg, ond rydym yn hapus i drefnu hwylusydd Cymraeg. Er mwyn rhoi cyfle i ni drefnu hwylusydd, gofynnwn i chi e-bostio [email protected] o leiaf wythnos cyn y digwyddiad os gwelwch yn dda.
Gostyngiadau: bobl di-gyflog, dros 60 oed, mewn addysg lawn amser a gyda cherdyn NUS, ac anabl.