Dyfodol Dogfennol: Ecolegau, Gwyddoniaeth ac Estheteg Newydd

Gan fynd i’r afael â dyfodol dogfennol, mae’r symposiwm rhyngwladol undydd hwn yn archwilio’r ffyrdd y mae ffotograffwyr bellach yn gydweithredol ac yn eang yn eu hymchwil wrth iddynt geisio rhoi ffurfiau gweledol i agweddau allweddol ecoleg, economïau, gwyddoniaeth ac estheteg gyfoes. Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau a chysylltiadau arloesol â'r cysyniad traddodiadol o ffotograffiaeth fel ffurf realaidd, mae gwaith y dogfenwyr newydd yn ymgysylltu'n feirniadol â gweithrediad a chyflwr marchnadoedd byd-eang, yr isadeiledd y tu ôl i fasnachu stoc algorithmig, ein cadwraeth ac empathi ar gyfer rhywogaethau anifeiliaid a goblygiadau deallusrwydd artiffisial i'n dealltwriaeth o fod yn ddynol.

Mae'r symposiwm ar-lein hwn yn gydweithrediad â'r artist gweledol, cyhoeddwr a’r darlithydd Salvatore Vitale o Brifysgol Gwyddorau Cymhwysol a Chelfyddydau Lucerne, ac fe’i harweinir gan Lisa Barnard a Mark Durden o Brifysgol De Cymru. Fe’i datblygir mewn ymateb i oblygiadau sioe ddigidol a llyfr Vitale, Reset (Futures Photography, 2020) a’i Rhaglen Adrodd Storïau Trawsgyfrwng yn ogystal ag ymchwil ddiweddar Barnard mewn traethodau perfformiadol gweledol a’r rhaglen ar-lein MA Ffotograffiaeth Ddogfennol sydd newydd ei hailddilysu.

Y siaradwyr a gadarnhawyd ar hyn o bryd yw Eline Benjaminsen ac Elias Kamaiyo, Lebohang Kganye, Sheng-Wen Lo, Maija Tammi, Mark Curran ac Iris Sikking.


Amlinelliad o’r diwrnod

10.00-10.10 Cyflwyniad gan Lisa Barnard

10.10-10.40 Sheng Wen Lo

10.40-11.10 Egwyl

11.10-11.40 Eline Benjaminsen ac Elias Kamaiy

11.40-11.50 Egwyl

11.50-12.20 Lebohang Kganye

12.20-12.30 Egwyl

12.30-13.00 Panel a Chwestiyanau

 

13.00-13.40 TORIAD CINIO

 

13.40-13.50 Cyflwyniad gan Salvatore Vitale

13.50-14.20 Maija Tammi

14.20-14.30 Egwyl

14.30-14.50 Mark Curran

14.50-15.20 Egwyl

15.20-15.50 Iris Sikking

15.50-16.30 Panel a Chwestiyanau