24-01-2019 to 25-01-2019
Location: Amgueddfa Cymru, Lansiad Arddangosfa Ffotogallery, ATRiuM - Prifysgol De Cymru
Audience: Public
Mewn ymateb i’r arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – Merched a Ffotograffiaeth – bydd y gynhadledd ddeuddydd hon yn edrych ar wleidyddiaeth ffotograffiaeth o ran ei ymateb i ddinasyddiaeth. Bydd yn canolbwyntio ar y ffyrdd y cafodd merched eu cynrychioli gan ffotograffiaeth, a sut y mae merched wedi (ac yn parhau i) siapio hanes ffotograffiaeth.
Diwrnod un – Amgueddfa Cymru
Bydd yr Amgueddfa, ar y cyd â Magnum, yn cyflwyno diwrnod o sgyrsiau a thrafodaethau panel wedi ei guradu gan Fiona Rogers, Sefydlwr Firecracker. Bydd ffotograffwyr benywaidd yn trafod eu rôl a’u dylanwad o fewn ffotograffiaeth ddogfennol, ac yn edrych ar sut y gellir deall eu gwaith yng nghyd-destun gwleidyddiaeth ddiwylliannol heddiw.
Siaradwyr wedi’u cadarnhau:
Poulomi Basu – Blood Speaks
Marcia Michael – Reclaiming the black body
Tim Clark – Who’s Looking at the Family Now
Emma Lewis – Representation of women and gender politics in collections
Lua Ribeira & Clementine Scheiderman – Collaborative practices
Bruno Ceschel – Queer photography
Joanne Coates – The representations and influences of class in photography
Digwyddiad Gyda’r Nos – Lansiad Arddangosfa Ffotogallery
Yn eu horiel yng nghanol y ddinas bydd Ffotogallery yn cyflwyno Noises in the Blood gan Lua Ribeira, sydd wedi’ henwebu gan Magnum. Mae’r arddangosfa yn sylwebaeth ddeifiol ar ddiwylliant y neuadd ddawns Jamaicaidd ym Mhrydain. Yn Nhy Turner, Penarth, bydd yr artist nodedig o Iran, Amak Mahmoodian yn dangos casgliad newydd o waith o’r archif. Bydd lluniaeth ysgafn a bws rhwng y ddau leoliad.
Diwrnod dau – European Centre for Documentary Research: Prifysgol De Cymru
Bydd yr European Centre for Documentary Research yn cyflwyno cyfres o sgyrsiau sy’n archwilio’r ffordd y mae ffotograffiaeth gyfoes wedi dod yn fater gwleidyddol a sifil, a’r sawl sy’n cael eu darlunio yn bwysicach nag erioed. Mae’r gynhadledd wedi’i hysbrydoli gan waith Ariella Azoulay, sy’n awgrymu fod pob ffotograff yn dibynnu ar y berthynas rhwng y ffotograffydd a thestun y llun. Bydd yn gyfle i gael trafodaeth eang ar y thema hon mewn ffotograffiaeth.
Siaradwyr wedi’u cadarnhau:
Nina Berman
Anastasia Taylor-Lind
Professor Florence Ayisi
Valeria Cherchi
Jenny Rova
Yumna Al-Arashi
Giya Makondo-Wills
Mae tocynnau pris llawn yn £30 (£20 wrth ddangos cerdyn myfyriwr).
Mae’r pris yn cynnwys dau ddiwrnod llawn y gynhadledd, sgwrs gyda’r nos a derbyniad yn Ffotogallery ar y 24 Ionawr a the a choffi yn ystod y gynhadledd.
Mae tocynnau ar gael ar www.eventbrite.co.uk
Dilynwch ni ar @docresearchUSW
Saesneg fydd iaith y daith hon ond gallwn ddarparu dehongliad Cymraeg. Er mwyn trefnu dehongliad Cymraeg, cysylltwch â [email protected] cyn gynted â phosib, o leiaf wythnos cyn y digwyddiad.