ECDR logo in Welsh

Partneriaethau


Rhan bwysig o strategaeth ymchwil eCDR yw sicrhau bod ein gwaith yn cysylltu â sefydliadau mawr yng Nghymru a thu hwnt. Mae cydweithio’n hollbwysig er mwyn gwneud y mwyaf o brosiectau unigol a chyfunol i sicrhau bod manteision diwylliannol ac academaidd ehangach. 

Adlewyrchir datblygu partneriaethau sy’n cyfoethogi dealltwriaeth feirniadol a chyhoeddus o gasgliadau ffotograffeg cenedlaethol a diwylliant gweledol cyfoes yn ein cysylltiadau academaidd cyfredol sy’n gysylltiedig â rhaglenni ymchwil a staff doethurol. Mae eCDR yn gyfuniad o ddulliau hanesyddol a damcaniaethol sy’n gysylltiedig ag ymchwil yn seiliedig ar ymarfer ym mhob un o’n meysydd ymchwil. Mae ein hymchwil yn cysylltu’n gryf ag addysgu a dysgu ar draws yr Ysgol Diwydiannau Diwylliannol a Chreadigol ac yn bwydo i fywydau diwylliannol amgueddfeydd, llyfrgelloedd a digwyddiadau celf rhyngwladol cenedlaethol